1 Cwrs digoll cerais degav
2 Cwyn cyfar mwyn cof yw'r mav
3 Coflaid lanwaith gywaithas
4 Ciried balch nid cariad bas
5 Cefais i'm cyngor cyfvn
6 Cof a bair hir lestair hvn
7 Dawn myfyr dinam ofeg
8 Dwyn taith i garv dyn teg
9 llwybr edifar i garv
10 llesc o daith foregwaith fv
11 kiried gwiw caredig waith
12 kyn gwybod cain yw gobaith
13 [153v] O neb cyn dechrev 'mebyd
14 Om bro lle'r oeddwn am bryd
15 hwyr y kair avr grair o gred
16 hawl ir faenawl ar fyned
17 I geisio lle tygaswn
18 hawdd hvd o gawdd hyd y gwn
19 Gwaeth yw'r sal gwedd tal y tir
20 Golvd mwyn gweled meinir
21 Gochelais pan glywais glod
22 Serch gof evrferch gyfarfod
23 Dirgel fydd da'r gelfyddyd
24 Dawn or bwyll a dyn or byd
25 Gadewais a hyntiais hwnt
26 priffyrdd y bobl ai pryffwnt
27 Cerddais ymysk y cordderw
28 Cof oedd a chaer oedd vwch erw
29 O gaer y glyn i gor glwys
30 Goeglwybr rhwng craig ac Eglwys
31 Goryw treigl gariad traglew
32 Gael gwyll y coed tywyll tew
33 Ar draws vn yr ymdrois i
34 Er i mwyn or mieri
35 [154r] Rhwystrvs gar rhiw i'm briwawdd
36 Ysgymvn colvddyn clawdd
37 hagr dynn rhyw erionyn Rhvs
38 honno yw trychiolaeth heinvs
39 cyflym vwch lan i dannedd
40 coel gwarth cyd bo cvl i gwedd
41 Dyscodd ym anoff gloffi
42 Dilwydd faint ym daliodd fi
43 Yn ol i gwrr anial goed
44 Nyidrodd ynghylch fy nevdroed
45 cefais tramgwyddais trwm gawdd
46 cwymp yno rhvgl cwymp anawdd
47 Ammarch ir fvdrbeth artethol
48 Mvrniai fardd mae arnaf ol//
Mae peth yn eisieu o hwn
Da' ap Glm'